top of page
Achub ein Tafarn Salusbury
Mae’r dafarn yn rhan hanfodol o unrhyw gymuned, ac o fewn pentref Tremeirchion mae gan y gymuned gyfle i brynu’r dafarn er mwyn sicrhau ei bod yn goroesi.
Mae cymuned Tremeirchion yn chwilio am gefnogaeth gan yr ardaloedd lleol a’r cyffiniau, ynghyd â’r rhai ymhellach i ffwrdd sydd ag awydd i gefnogi hyb cymunedol y mae mawr ei angen.
Byddwn yn parhau i bostio diweddariadau yn y Newyddion Diweddaraf ac ar gyfryngau cymdeithasol (Gallwch ddod o hyd i ni ar Facebook)
(Rydym hefyd yn ymdrechu i ddiweddaru cymaint o rannau o'r wefan gan ychwanegu’r Gymraeg - os oes unrhyw wirfoddolwyr a all gynnig y gefnogaeth hon yna cysylltwch â ni)
Diolch enfawr i bawb sydd wedi cyd-dynnu hyd yn hyn i achub ein tafarn!
bottom of page